Y blychau wedi'r lladrad yn Hatton Garden, Llundain
Mae tri dyn wedi’u cael yn euog o ddwyn gwerth £14 miliwn o emwaith yn Hatton Garden, Llundain, yn y lladrad mwyaf yn hanes Prydain.

Roedd y lladron wedi cynnal cyrch “soffistigedig” a manwl iawn ar 73 o flychau diogel yn ardal Hatton Garden dros benwythnos y Pasg y llynedd.

Roedden nhw wedi tyllu twll yn wal y celloedd gan ddwyn aur, diemwntau a saffirau gwerth £14 miliwn.

Nid yw’r rhan fwyaf o’r nwyddau gwerthfawr wedi cael eu canfod eto.

Cafwyd Carl Wood, 58, o Swydd Hertford a William Lincoln, 60, o ddwyrain Llundain yn  euog o gynllwynio i ladrata a chynllwynio i guddio, newid neu drosglwyddo eiddo troseddol.

Cafwyd Jon Harbinson, 42, o Essex yn ddieuog o’r ddau drosedd.

Roedd Hugh Doyle, 48 oed, o ogledd Llundain wedi’i gael yn euog o guddio, newid neu drosglwyddo eiddo troseddol.

Mae disgwyl i’r dynion gael eu dedfrydu ar 7 Mawrth.

Arweinwyr y grŵp

Roedd arweinwyr y grŵp, John “Kenny” Collins, 75, Daniel Jones, 60, Terry Perkins, 67, a Brian Reader, 76, wedi pledio’n euog i gynllwynio i ladrata fis Medi diwethaf.

Mae merch Terry Perkins, Terri Robinson, 35, yn wynebu cyfnod yn y carchar hefyd ar ôl iddi bledio’n euog o guddio, newid neu drosglwyddo eiddo troseddol.

Roedd ei brawd yng nghyfraith, Brenn Walters, 43, sydd hefyd yn cael ei adnabod fel Ben Perkins, wedi cyfaddef cyflawni’r un drosedd.