Eddie Redmayne a enillodd Golden Globe ac Oscar y llynedd am The Theory of Everything
Mae Eddie Redmayne wedi cael ei enwebu am Oscar yng nghategori’r actor gorau am yr ail flwyddyn yn olynol am ei ran yn y ffilm The Danish Girl.
Er iddo ennill y llynedd am ei berfformiad fel yr Athro Stephen Hawking yn The Theory of Everything, bydd yr actor yn cystadlu gyda Leonardo DiCaprio, Michael Fassbender, Matt Damon a Bryan Cranston am y wobr.
Mae Charlotte Rampling wedi cael ei henwebu am wobr yr actores orau ochr yn ochr â Saoirse Ronan, Cate Blanchett, Jennifer Lawrence a Brie Larson.
Hefyd, bydd y ffilmiau The Big Short, Bridge Of Spies a The Revenant yn cystadlu gyda Spotlight, Room, The Martian, Brooklyn a Mad Max: Fury Road am y ffilm orau.
Mae Cymraes o Gaerdydd, Sian Grigg hefyd wedi cael ei henwebu am ei gwaith colur yn y ffilm The Revenant, gyda Leonardo DiCaprio.
Ar ôl iddo ennill Golden Globe, mae’r canwr Sam Smith wedi cael ei enwebu am y gân wreiddiol orau am Writing’s On The Wall – y gân o’r ffilm James Bond, Spectre.
Am restr lawn o’r enwebiadau, ewch i http://oscar.go.com/nominees