Chris Grayling
Mae aelod blaenllaw o’r Cabinet, Chris Grayling wedi cyflwyno asesiad damniol o’r Undeb Ewropeaidd, gan ddweud fod telerau presennol ei aelodaeth yn “drychinebus” i’r DU.
Mewn erthygl ym mhapur newydd y Daily Telegraph, rhybuddiodd Arweinydd Tŷ’r Cyffredin bod Brwsel yn anelu tuag at undeb agosach rhwng aelodau.
Mae David Cameron wedi caniatáu i weinidogion ymgyrchu o blaid dwy ochr y ddadl cyn y refferendwm ar aelodaeth y DU o’r UE, ond nid cyn i drafodaethau gyda chyd-arweinwyr yr UE gael eu cwblhau.
Ond mae erthygl Chris Grayling yn y Daily Telegraph yn nodi’n glir nad oedd yn credu y dylai’r berthynas bresennol â Brwsel barhau.
Mae’r Prif Weinidog yn gobeithio sicrhau bargen newydd ar gyfer y DU ym Mrwsel ym mis Chwefror a fydd yn caniatáu iddo argymell pleidlais i aros yn yr UE yn y refferendwm.
Mae’r cyn-weinidog Damian Green wedi cyhuddo Chris Grayling o ddweud celwyddau am aelodaeth Prydain o’r UE.
‘Chwerthinllyd’
Dywedodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Tim Farron AS, fod y sylwadau yn datgelu’r rhaniad yn y Blaid Geidwadol ar Ewrop.
Meddai Tim Farron: “Byddai gadael Ewrop yn tanseilio economi Prydain, yn gwneud ein gwlad yn llai diogel ac yn amharu ar y gwaith o frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.
“Os yw Chris Grayling neu unrhyw un arall am ddadlau neu bleidleisio yn erbyn Prydain yn aros yn Ewrop, yna mae’n rhaid eu parchu, ond dylent ymddiswyddo o’r llywodraeth i wneud hynny.
“Mae’n chwerthinllyd bod David Cameron wedi penderfynu na fydd y Llywodraeth yn sefyll gyda’i gilydd ar y penderfyniad pwysicaf sy’n wynebu ein gwlad.”