Leanne Wood
Mae Plaid Cymru wedi rhybuddio Ysgrifennydd Gwladol Cymru fod yn rhaid iddo wella Mesur Cymru yn sylweddol os yw am roi setliad teg i Gymru.

Wrth drafod argymhellion adroddiad Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol ar Fesur Cymru, croesawodd arweinydd Plaid Cymru y ffaith fod y pwyllgor wedi cytuno â llawer o safbwyntiau’r blaid.

Dywedodd arweinydd Plaid Cymru Leanne Wood fod problemau gyda’r Mesur ac na all ei phlaid ei gefnogi fel y mae ar hyn o bryd.

Gwrthod Mesur ‘annigonol’

Dywedodd Leanne Wood: “Mae gan Blaid Cymru lawer o bryderon am Fesur Cymru, ac yr wyf wedi datgan yn glir wrth yr Ysgrifennydd Gwladol na allwn ei gefnogi ar ei ffurf bresennol.

“Mae adroddiad y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol yn dweud yn glir fod angen cryfhau’r Mesur hwn yn sylweddol cyn iddo gael cefnogaeth y Cynulliad Cenedlaethol. Rwy’n falch fod aelodau’r Cynulliad Cenedlaethol o bob plaid wedi siarad ag un llais heddiw ac wedi gwrthod Mesur Cymru annigonol Llywodraeth y DG.

“Mater i Lywodraeth y DG yn awr yw rhoi i Gymru y setliad mae’n haeddu. Bydd Plaid Cymru yn cynnig y dylai’r Cynulliad barhau i flocio unrhyw fesur drafft sy’n trin Cymru yn eilradd o gymharu â’r gwledydd datganoledig eraill.”