Mae pryder y gallai cyfrifoldeb am fudd-dal lles amlwg gael ei drosglwyddo i Lywodraeth Cymru.
Ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd Llywodraeth y DU eu bod yn ymgynghori ar drosglwyddo’r gyllideb a chyfrifoldeb am Lwfans Gweini (Attendance Allowance) i awdurdodau lleol yn Lloegr ac i’r Llywodraeth yng Nghymru.
Meddai Gofalwyr Cymru eu bod nhw’n pryderu y gallai’r cynlluniau gael sgil-effeithiau difrifol ar gyfer y rhai sy’n darparu gofal di-dâl yn y dyfodol.
Mae’r Lwfans Gweini yn fudd-dal sy’n cael ei dalu i bobl dros 65 oed i helpu gyda gofal personol o ganlyniad i anabledd corfforol neu feddyliol.
Gall hawlio Lwfans Gweini helpu’r person neu eu gofalwr i geisio budd-daliadau eraill neu gredydau treth.
‘Cadw’r system bresennol’
Dywedodd Keith Bowen, cyfarwyddwr Gofalwyr Cymru, y sefydliad sy’n darparu’r cymorth a chyngor i ofalwyr, y gall datganoli’r budd-dal ar draws Cymru a Lloegr greu loteri o gefnogaeth i bobl hŷn a gofalwyr.
Meddai Keith Bowen: “Mae’r hawl cenedlaethol i Lwfans Gweini yn ffynhonnell bwysig o gefnogaeth ar gyfer pobl hŷn sydd ag anghenion gofal, gan eu helpu i aros yn annibynnol yn hirach. Mae’r system bresennol yn gyflym ac yn effeithlon.
“Ar y llaw arall, byddai datganoli cyllidebau ar gyfer hawlwyr Lwfans Gweini ledled Cymru a Lloegr, fel y gall awdurdodau lleol greu eu systemau eu hunain o gefnogaeth, yn bygwth creu loteri o gefnogaeth i bobl hŷn a gofalwyr.
“Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gadw’r system bresennol sy’n gweithio’n dda, yn glir ac yn gymharol effeithlon.
“O ystyried bod y Lwfans Gweini hefyd yn borth i hawlio Lwfans Gofalwr, rydym yn bryderus iawn y bydd gofalwyr y dyfodol yn ei chael hi’n fwy anodd i gael gafael ar Lwfans Gofalwr, sy’n ffynhonnell gwbl hanfodol o incwm ar gyfer y rhai sy’n gofalu, o dan y cynigion hyn.”
Meddai llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru eu bod yn rhannu pryderon Gofalwyr Cymru ond eu bod am aros i weld canlyniad ymgynghoriad Llywodraeth y DU.