Mae Tesco wedi cyhoeddi gostyngiad o 1.5% mewn gwerthiant yn y trydydd chwarter ond cynnydd dros gyfnod y Nadolig.

Mae’r cwmni archfarchnad wedi bod yn ceisio atal cwymp mewn gwerthiant yn wyneb cystadleuaeth gan Lidl ac Aldi.

Mae’r ffigurau diweddaraf yn well na’r disgwyl gyda chynnydd mewn gwerthiant o 2.1% yn y chwe wythnos hyd at 9 Ionawr , a chynnydd o 1.3% mewn gwerthiant yn y DU.

Serch hynny nid oedd y ffigurau mor bositif ar gyfer y 13 wythnos hyd at 28 Tachwedd, gyda gostyngiad o 1.5% mewn gwerthiant yn y DU.

Dywedodd y prif weithredwr Dave Lewis bod perfformiad y cwmni dros y Nadolig yn “gadarnhaol.”