Sian Blake
Fe allai’r dyn sy’n cael ei amau o lofruddio cyn-actores EastEnders, Sian Blake, ymddangos gerbron llys yn Ghana heddiw.

Cafodd Arthur Simpson-Kent, 48, ei arestio gan blismyn arfog yno ddydd Sadwrn.

Roedd wedi gadael y DU yn dilyn marwolaeth ei gynbartner a’u dau fab ifanc,  Zachary, 8, ac Amon, 4 oed.

Cafwyd hyd i’w cyrff yng  ngardd eu cartref yng Nghaint.

Mae Arthur Simpson-Kent yn cael ei gadw yn y ddalfa.