Mae ymchwiliad ar y gweill wedi i gorff dyn 58 oed gael ei ddarganfod mewn tŷ yn Nottingham brynhawn Sadwrn.

Cafodd yr heddlu eu galw i ardal Carlton y ddinas am oddeutu 3 o’r gloch.

Mewn datganiad, dywedodd yr heddlu eu bod nhw’n cynnal ymchwiliad er mwyn darganfod sut y bu farw’r dyn.

Mae’r heddlu wedi apelio am wybodaeth.