Mae bachgen 16 oed wedi cael ei drywanu i farwolaeth mewn parc yn nwyrain Llundain.

Roedd e wedi bod mewn parti penblwydd nos Sadwrn gyda hyd at 100 o bobol mewn clwb cymdeithasol ar gyrion Woodford.

Ond fe fu ffrae mewn parc y tu allan i’r adeilad, ac fe gafodd ei drywanu cyn i’r llanciau ffoi.

Cafodd driniaeth gan yr heddlu a pharafeddygon, ond fe fu farw yn yr ysbyty’n ddiweddarach.

Mae ei deulu wedi cael gwybod, ac fe fydd archwiliad post mortem yn cael ei gynnal ddydd Llun.

Mae Heddlu Scotland Yard yn ymchwilio i’r digwyddiad.