Mae Leanne Wood wedi galw am ddiwygio, ac nid gadael yr Undeb Ewropeaidd.
Mewn erthygl yn y Sunday Times, dywed arweinydd Plaid Cymru fod y cwestiynau a’r pryderon ynghylch diwygio’r Undeb Ewropeaidd wedi’u trechu gan y buddiannau i’r sector amaeth, sefydliadau addysg uwch ac isadeiledd trafnidiaeth Cymru.
Rhybuddiodd hi yn erbyn undeb wleidyddol agosach sy’n bygwth uwch-wladwriaeth Ewropeaidd gan alw am lais cryfach i Gymru wrth y bwrdd.
Yn ei herthygl, dywedodd Leanne Wood: “Mae nifer o gwestiynau a phryderon dilys wedi eu codi ynghylch diwygiadau penodol o fewn yr Undeb Ewropeaidd, ond ma’r buddiannau i sector amaeth Cymru, ein sefydliadau addysg uwch, isadeiledd trafnidiaeth a rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yn llawer mwy niferus.
“Serch hyn, mae’r undod sydd ei angen i ddadlau’r achos argyhoeddedig dros barhad aelodaeth y DG o’r Undeb Ewropeaidd yn cael ei fygwth gan raniadau chwerw o fewn y Blaid Lafur, ynghyd a phenderfyniad rhyfedd ac anghyfrifol y Prif Weinidog i adael i’w Weinidogion ei hun ymgyrchu yn ei erbyn ef a’i Lywodraeth.
“Felly, mae disgwyl i Blaid Cymru – fel ffrind agos ond beirniadol o’r Undeb Ewropeaidd – hyrwyddo buddiannau niferus aelodaeth, craffu ar gynlluniau negodi’r Prif Weinidog, a chynnig cynlluniau amgen positif.
“Mae’r mater o sofraniaeth Cymru yn hollbwysig i ni ym Mhlaid Cymru.”
Gweledigaeth
Ychwanegodd Leanne Wood fod ei phlaid am weld “undeb agosach” rhwng trigolion Ewrop, ond nad ydyn nhw am weld “bygwth creu uwch-wladwriaeth”.
“Byddem yn croesawu undeb agosach pobloedd drwy roi llais cryfach i gymunedau, rhanbarthau a chenhedloedd, yn hytrach na chomisiwn UE cynyddol bwerus a chanoledig heb ei ethol.”
TTIP
“Mae Plaid Cymru wedi bod yn hynod feirniadol o’r cytundeb TTIP – bargen gyfrinachol sy’n ymddangos i fod yn elwa corfforaethau mawr yn bennaf.
“Mae 99% o gwmniau Cymreig yn gwmniau bach a chanolig – nhw yw asgwrn cefn yr economi Gymreig ac ni ddylent ddioddef anfantais gystadleuol o gymharu a chwmniau mawr.
“Carem hefyd weld rheolau caffael a chymorth gwladwriaethol yn cael eu hail-feddwl i ganiatau i ymyrraeth lywodraethol elwa busnesau cartref.
“Gall hyn alluogi llywodraeth Cymru’r dyfodol i fuddsoddi’n well mewn diwydianau megis dur Cymreig sy’n hanfodol i’n heconomi.”
Parchu dymuniadau pobol Cymru
Ond yn bwysicaf oll, medd Leanne Wood, yw sicrhau bod dymuniadau pobol Cymru’n cael eu parchu.
Mae Leanne Wood, ynghyd â’r SNP, wedi bod yn galw am sicrhau bod holl wledydd Prydain yn unigol yn pleidleisio dros adael cyn y gall hynny ddigwydd.
“Yn y pen draw, y ffactor bwysicaf yn y refferendwm Ewropeaidd yw sicrhau fod ewyllys pobl Cymru yn cael ei chydnabod a’i pharchu, beth bynnag y bo.
“Gyda’r mwyafrif o bolau diweddar yn dangos mwyafrif yn yr Alban a Chymru o blaid aros, gyda mwyafrif yn Lloegr yn debygol o bleidleisio i adael, mae perygl y bydd canlyniad y refferendwm yn cael ei benderfynu gan ddymuniad y genedl fwyaf.
“Plaid Cymru oedd y blaid gyntaf i gefnogi’r syniad o ddatgan canlyniad pob rhan o’r DG arwahan, gan ddadlau na ddylai’r DG adael yr Undeb Ewropeaidd heb gytundeb rhwng y pedair cenedl.
“Rydym yn parhau i arddel y safbwynt hwn a chredwn y byddai unrhyw beth llai yn sarhad i ddemocratiaeth.”