Mae Arlywydd Ffrainc, Francois Hollande ymhlith y rhai sy’n mynychu seremoni arbennig ym Mharis ddydd Sul i gofio am y rhai a gafodd eu lladd gan eithafwyr Islamaidd yn 2015.
Cafodd cofeb ei dadorchuddio yn Place de la Republique ym mhrifddinas Ffranc gan Hollande a’r Faeres Anne Hidalgo – a honno’n cofio am y rhai a gafodd eu lladd yn swyddfa’r cylchgrawn dychanol Charlie Hebdo, mewn archfarchnad Iddewig, yn neuadd gyngherddau’r Bataclan, mewn bwytai ac yn Stade de France.
Yn ystod y seremoni heddiw, fe fydd y canwr roc Ffrengig Johnny Hallyday yn perfformio gyda chôr y fyddin.
Ar y cyfan, cafodd oddeutu 150 o bobol eu lladd mewn ymosodiadau brawychol yn Ffrainc y llynedd.