Mae ymchwiliad ar y gweill yn dilyn tân bwriadol ar safle fu unwaith yn dafarn ym Mhontllanffraith yn Sir Caerffili nos Sadwrn.
Cafodd diffoddwyr o Aberbargoed, Caerffili ac Abercarn eu galw i’r digwyddiad ar safle’r White Hart ar Ffordd Trecelyn am oddeutu 8 o’r gloch.
Cafodd y tân ei ddiffodd tua chanol nos ar ôl ymdrechion a barodd rai oriau.
Bydd y gwasanaeth tân yn archwilio’r safle’n ddiweddarach.
Mae rhybudd i drigolion Pontllanffraith gadw eu ffenestri ynghau am y tro.