Mae cyn-Aelod Seneddol Llafur yr Alban, Frank Roy wedi’i benodi’n gyfarwyddwr ymgyrch yr Alban o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd.

Cyn-gyfarwyddwr cyfryngau a chynghorydd arbennig yr SNP, Kevin Pringle sydd wedi’i benodi i arwain gweithrediadau cyfryngau’r ymgyrch.

Bydd refferendwm yn cael ei gynnal yng ngwledydd Prydain cyn diwedd 2017.

Roedd Frank Roy yn Aelod Seneddol dros Motherwell a Wishaw rhwng 1997 a 2015, ac roedd e’n chwip ei blaid ac yn Arglwydd Gomisiynydd y Trysorlys rhwng 2006 a 2010.

Fe gollodd ei sedd i’r SNP yn yr etholiad cyffredinol y llynedd.

Daw’r penodiadau wedi i arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, Nicola Sturgeon rybuddio y byddai penderfynu gadael yr Undeb Ewropeaidd yn groes i ddymuniad pobol yr Alban yn “warth democrataidd ac yn destun pryder”.

Bu Sturgeon yn galw am sicrhau bod pob un o wledydd Prydain yn dymuno gadael yr Undeb Ewropeaidd cyn y byddai hynny’n digwydd.

Mae Llafur yr Alban wedi dweud y bydd aelodau seneddol yn rhydd i ymgyrchu pa ffordd bynnag y mynnan nhw.