Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd gymeradwyo cynlluniau i godi 116 o dai newydd ym Mae Caerdydd.
Bydd y cynlluniau’n gweld ailwampio swyddfeydd y Cyngor yn Schooner Way.
Cymdeithas Tai Cymunedol Caerdydd a Morganstone sydd wedi cyflwyno’r cynlluniau.
Bydd y datblygiad newydd yn cynnwys 32 o dai fforddiadwy ac 85 o fflatiau.
Mae disgwyl i Gyngor Caerdydd wneud penderfyniad ddydd Mercher.