Mae dyn o Albania wedi cael ei garcharu am gyfres o ymosodiadau rhyw ar ferched yn nwyrain Llundain rhwng mis Awst a mis Hydref y llynedd.

Ymosododd Giorge Zhukas, 47, ar naw o ferched, gan gynnwys un ferch 13 oed, ar fysus yn Walthamstow ac Ilford.

Cafodd Zhukas ei arestio ym mis Hydref o ganlyniad i luniau ar gamera cylch-cyfyng un o’r bysus.

Yn Llys y Goron Snaresbrook, cafodd Zhukas ei garcharu am 18 mis wedi iddo bledio’n euog i naw cyhuddiad.

Cafodd ei enw ei roi ar y gofrestr troseddwyr rhyw am 10 mlynedd, ac fe fydd yn cael ei alltudio wedi iddo gael ei ryddhau o’r carchar.