Mae tri dyn wedi cael eu harestio ar amheuaeth o geisio llofruddio plismyn yn ne orllewin Llundain nos Sadwrn.

Dywedodd Heddlu Llundain fod gyrrwr car 22 oed wedi gyrru at blismyn yn Clapham nifer o weithiau gan daro nifer o geir cyn ceisio ffoi.

Roedd y dynion wedi ennyn sylw’r heddlu am oddeutu 7.30 nos Sadwrn yn dilyn ymddygiad amheus.

Daeth yr heddlu o hyd i gyllell yn y car, ac roedd rhagor o gyllyll, canabis a £1,000 ym meddiant y dynion.

Ni chafodd unrhyw blismon ei anafu, ac mae’r tri yn cael eu holi yn y ddalfa.