Roedd yr actor Sean Penn wedi helpu’r heddlu i ddod o hyd i Joaquin ‘El Chapo’ Guzman o Fecsico, un o fasnachwyr cyffuriau mwya’r byd.
Daeth i’r amlwg fod Guzman wedi’i ddarganfod yn dilyn cyfweliad cudd â’r actor.
Ymddangosodd y cyfweliad ar wefan cylchgrawn Rolling Stone, a hynny wedi i Guzman ddianc o’r carchar am yr ail waith.
Cafwyd hyd i Guzman yn Los Mochis yn Sinaloa ddydd Gwener, chwe mis wedi iddo ffoi.
Wrth geisio dal Guzman, cafodd pump o bobol eu saethu’n farw.
Yn y cyfweliad, roedd Guzman wedi amddiffyn ei ran mewn masnachu cyffuriau, ac fe ddywedodd Penn fod gan Guzman ddiddordeb mewn ffilm oedd yn cael ei gynllunio i adrodd hanes ei fywyd.
Mae disgwyl i Guzman gael ei gludo i’r Unol Daleithiau i wynebu cyhuddiadau mewn nifer o daleithiau, wedi i Fecsico gytuno i’w estraddodi.
Ond fe allai gryn amser fynd heibio cyn i’r achos gyrraedd y llys.