Fe fydd capel 138 oed yn Abertawe yn cau ei ddrysau yn dilyn ei wasanaeth olaf ddydd Sul.

Cafodd ymgyrch ei chynnal gan yr Annibynwyr i geisio adfer y capel cofrestredig Gradd 2, sydd â lle i fwy na 1,000 o bobol.

Ond mae nifer yr addolwyr wedi gostwng yn ddifrifol dros y blynyddoedd diwethaf, a dim ond chwech o bobol sydd gan y capel bellach.

Roedd ymgyrchwyr yn gobeithio y gallai’r adeilad fod wedi cael ei ddefnyddio gan y gymuned.