Mae dau o bobol wedi ennill jacpot gwerth ychydig dros £66 miliwn y Loteri.

Bydd yr enillwyr yn derbyn £33,035,323 yr un wedi iddyn nhw ennill y jacpot mwyaf erioed.

Penderfynodd y Loteri gynnig y jacpot am docynnau lle’r oedd pump o’r rhifau a’r belen bonws yn cyfateb i’r rhifau buddugol, yn hytrach na’r chwe phelen arferol, a hynny yn dilyn 14 ymgais aflwyddiannus i ddod o hyd i enillydd.

Yn dilyn eu buddugoliaeth, £2.4 miliwn fydd y jacpot ddydd Mercher.

Mae pump o bobol hefyd wedi ennill £64,426 yr un am fod pump o’u rhifau a’r belen bonws yn cyfateb i’r rhifau buddugol.

Yn y cyfamser, mae Camelot wedi cyhoeddi nad oedd enillydd ar gyfer jacpot o 949.8 miliwn o ddoleri yn yr Unol Daleithiau.

Mae’n golygu mai 1.3 biliwn o ddoleri fydd y jacpot ddydd Mercher nesaf.

40 miliwn o ddoleri oedd y jacpot gwreiddiol ar Dachwedd 4.