Mae mwy na 100 o Anglicaniaid blaenllaw wedi llofnodi llythyr sy’n galw ar Eglwys Loegr i edifarhau am y ffordd y maen nhw’n trin Cristnogion o fewn y gymdeithas LGBT.

Cafodd y llythyr ei drefnu gan gyfarwyddwr mudiad Accepting Evangelicals, Jayne Ozanne.

Mae’r llythyr wedi’i anfon at Archesgobion Caergaint a Chaerefrog cyn bod cyfarfod o Anglicaniaid byd-eang yn cael ei gynnal.

Dywed y llythyr fod rhaid i’r Eglwys gydnabod eu bod yn trin pobol o’r gymdeithas LGBT fel “dinasyddion eilradd”, a’i bod wedi “methu gofalu” amdanyn nhw.

Bydd Eglwys Loegr yn trafod y llythyr mewn cyfarfod.