Mae arweinydd arolwg y Blaid Lafur ar dlodi, Alison McGovern wedi ymddiswyddo yn dilyn sylwadau sarhaus gan ganghellor yr wrthblaid, John McDonnell.

Mae lle i gredu bod McGovern yn grac fod McDonnell wedi dweud bod y grŵp sy’n cynnal yr arolwg “ymhell i’r dde”.

Mae disgwyl i McGovern amlinellu ei rhesymau am ymddiswyddo pan fydd hi’n ymddangos ar raglen Sunday Politics y BBC yn ddiweddarach ddydd Sul.

Fe allai’r mater ail-godi’r ffrae rhwng y Blaid Lafur a’r BBC yn dilyn ymddiswyddiad Aelod Seneddol De Caerdydd a Phenarth, Stephen Doughty o feinciau blaen y blaid yr wythnos diwethaf.

Mae swyddfa’r arweinydd, Jeremy Corbyn wedi cyhuddo’r BBC o lwyfannu ymddiswyddiad Doughty yn fyw ar yr awyr toc cyn dechrau Sesiwn Holi’r Prif Weinidog ddydd Mercher.

Mae Jonathan Reynolds a Kevan Jones hefyd ymhlith y rhai sydd wedi ymddiswyddo o’r meinciau blaen, gan nodi eu bod yn anghydweld â Corbyn, a’u bod yn grac ynghylch diswyddo llefarydd Ewrop, Pat McFadden a’r llefarydd diwylliant, Michael Dugher.

Yn y Sunday Times, mae McFadden wedi cyhuddo Corbyn a McDonnell o geisio “atal lleisiau eraill rhag cael eu clywed”.