Mae dau ddyn 20 a 24 oed yn parhau i gael eu holi gan Heddlu Gwent ar amheuaeth o achosi marwolaeth drwy yrru’n beryglus, yn dilyn gwrthdrawiad angheuol yn Y Fenni nos Wener.

Cafodd dau ddyn 19 a 35 oed eu lladd yn y fan a’r lle yn dilyn y gwrthdrawiad ar ffordd B4598 toc cyn 11 o’r gloch y nos.

Mae un o’r ddau fu farw wedi’i enwi’n lleol fel Jordan Bell, 19 oed.

Mae teyrngedau wedi’u rhoi iddo ar wefannau cymdeithasol a ger y fan lle bu farw.

Mae Heddlu Gwent wedi apelio am wybodaeth.