Mae pleidiau gwleidyddol sydd o blaid annibyniaeth i Gatalwnia wedi dewis olynydd i’r arweinydd Artur Mas.
Daeth cadarnhad ddydd Sadwrn eu bod nhw wedi ethol Carles Puigdemont i olynu Mas.
Artur Mas ei hun wnaeth y cyhoeddiad fod Puigdemont wedi’i ddewis.
Yn syth wedi’i benodi, apeliodd llywodraeth Sbaen ar Puigdemont i roi’r gorau i strategaeth o “rannu a rhwygo’r gymdeithas Gatalan”.
Mae llywodraeth Sbaen eisoes wedi dweud bod ymgais pleidiau cenedlaetholgar Sbaen i geisio annibyniaeth yn anghyfansoddiadol.
Mewn datganiad, dywedodd llywodraeth Sbaen: “Gwnewch ymdrech i geisio atebion i broblemau eich trigolion yn hytrach na chreu tensiynau newydd.”
Mae polau piniwn yn awgrymu bod y rhan fwyaf o drigolion Catalwnia o blaid refferendwm annibyniaeth.
Enillodd y pleidiau o blaid annibyniaeth 62 o seddi yn y senedd, ond roedd angen 10 sedd ychwanegol – a chefnogaeth plaid CUP – ar Artur Mas i gael mwyafrif, ond doedden nhw ddim yn fodlon i Mas barhau fel arweinydd.
Puigdemont yw Maer Girona, ac mae ei benodiad yn golygu nad oes rhaid cynnal rhagor o etholiadau.
Dywedodd Mas na fyddai’n troi ei gefn ar wleidyddiaeth yn llwyr, ond ei fod yn ystyried dod yn llysgennad, gan ledaenu’r neges am annibyniaeth ar draws y byd.