Mae adroddiadau bod yr heddlu wedi arestio dyn 48 oed yn Ghana ar amheuaeth o lofruddio’r actores Sian Blake a’i dau o blant.
Cafwyd hyd i gyrff y tri yn yr ardd yn eu cartref yn Swydd Gaint ddydd Mawrth diwethaf.
Gwnaeth Arthur Simpson-Kent, 48, ffoi yn dilyn marwolaethau Sian, eu mab wyth oed Zachary a’u mab pedair oed Amon.
Yn ôl y Daily Mirror, cafodd Simpson-Kent ei arestio yng ngorllewin Ghana.
Dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Scotland Yard eu bod nhw’n ymwybodol o’r datblygiadau diweddaraf.
Dywedodd yr heddlu bod y tri wedi marw o ganlyniad i anafiadau i’w pennau a’u gyddfau.
Yn ôl y BBC, roedd trigolion lleol yn Ghana wedi cysylltu â’r heddlu wedi iddyn nhw ei adnabod o apêl ar wefannau cymdeithasol.
Daeth yr heddlu o hyd iddo ar draeth â chyllell yn ei feddiant.
Mae’n cael ei gadw yn y ddalfa yn Ghana cyn cael ei gludo’n ôl i Brydain, lle bydd yn cael ei holi ymhellach.
Mae Comisiwn Annibynnol Cwynion yr Heddlu’n ymchwilio i’r achos hefyd.