Mae ymosodiad o’r awyr ar garchar yn Syria, wedi lladd beth bynnag 39 o bobol – er bod rhai gwrthryfelwyr lleol yn dweud bod nifer y meirwon yn 51.

Fe daniodd awyrennau rhyfel bedwar taflegryn, gan daro llys Islamaidd sydd hefyd yn cynnwys carcchar, yn ogystal a chwalu ffordd sy’n cysylltu’r llys gyda’r farchnad leol yn nhre’ Maaret al-Numan yng ngogledd-orllewin y wlad.

Fe laddwyd 39 o bobol, yn cynnwys nifer o wrthryfelwyr Ffrynt Nusra mudiad al Qaida yn ogystal a charcharion.

Mae grwp o wrthryfelwyr lleol yn honni fod yr ymosodiad wedi lladd 51 o bobol.