Iain Duncan Smith, yr Ysgrifennydd Gwaith a Phensiynau (Y Ganolfan Gyfiawnder Cymdeithasol)
Mae cost gwneud asesiadau dadleuol ar bobol anabl wedi dyblu, yn ôl y Swyddfa Archwilio.

Ac maen nhw’n dweud nad yw Adran Waith a Phensiynau Llywodraeth Prydain yn gallu cadw rheolaeth ar y gwaith, sy’n cael ei wneud gan gwmnïau preifat.

Yn ôl adroddiad y Swyddfa Archwilio, mae costau’r asesiadau wedi codi i £560 miliwn y flwyddyn.

Mae’n dweud bod angen i’r Adran weithredu trwy roi’r gorau i osod targedau optimistaidd a sicrhau bod cwmnïau preifat yn cadw at eu cytundebau.

‘Gwastraffu’ 

Y disgwyl oedd y byddai’r drefn newydd yn arbed tuag £1.1 biliwn ond mae’r amcangyfrifon bellach wedi eu gostwng i £400 miliwn.

Ond yn ôl y Swyddfa Archwilio, roedd £76 miliwn o arian cyhoeddus wedi’i wastraffu ar fethiant i sefydlu a gweinyddu system dechnoleg gwybodaeth, fwy na dwy flynedd wedi addewid ei bod yn barod.

Mae’r cwmnïau preifat yn cael trafferth i recriwtio staff arbenigol i ateb y galw uchel a hynny’n achosi oedi.

Cytundebau

Dywedodd y Swyddfa Archwilio fod y Adran Waith a Phensiynau “yn cael traffeth i roi targedau a gofynion, gyda thystiolaeth glir”.

“Mae perfformiadau blaenorol yn dangos nad yw’r Adran Waith wedi taclo hyn – ac o bosib wedi gwaethygu’r sefyllfa wrth osod cytundebau diweddar,” meddai’r adroddiad.

Wrth ymateb i ganfyddiadau’r Swyddfa Archwilio, dywedodd yr Aelod Seneddol Meg Hillier, sy’n cadeirio’r pwyllgor seneddol ar gyfrifon cyhoeddus, “Mae pobol anabl a’r trethdalwyr yn gyffredinol wedi cael cam gan yr Adran Waith a Phensiynau.

“Dyw rhoi cytundebu gwasanaethau cyhoeddus i gwmnïau prreifat ddim yn tynnu’r cyfrifoldeb sydd gan yr Adran i sicrhau fod arian y trethdalwr yn cael ei wario’n iawn.”

Pwysau ar bobol gydag anableddau

Yn ôl elusen Mencap mae’r oedi sy’n wynebu pobol anabl cyn cael dyfarniad yn “annerbyniol”.

“Tra fod pobl yn disgwyl, maent yn gorfod byw ar fudd-dal is o lawer.

“Mae’r oedi hwn yn achosi pwysau ar bobol gydag anghenion dysgu, sy’n wynebu ansicrwydd llwyr am eu dyfodol ariannol.”