Mae’r Swyddfa Dywydd wedi cyhoeddi rhybudd melyn i rannau o orllewin Cymru ar gyfer ben bore heddiw, ac mae disgwyl rhwng  10 a 20mm o law wrth iddi oleuo.

Ond fe fydd y tywydd yn newid yn sylweddol yr wythnos nesa’ gyda disgwyl tywydd llawer oerach ac efallai eira.

Yn ôl arbenigwyr, mae’r newid yn rhannol oherwydd effaith tywydd El Nino yn y Môr Tawel a newid yn y jetlif a fydd yn symud y tywydd cynhesach fwy i’r De.

Rhybuddion llifogydd

Mae sawl rhybudd llifogydd yn parhau mewn grym gan y corff amgylcheddol Cyfoeth Naturiol Cymru ar afonydd Teifi, Dyfrdwy ac Efyrnwy ym Mhowys.

Ond mae disgwyl y bydd y glaw tryma’ wedi syrthio yng Ngheredigion, Conwy, Gwynedd, Ynys Môn a Phowys erbyn ben bore ac mae’r swyddfa dywydd yn gofyn I fodurwyr fod yn ymwybodol o unrhyw beryg o lifogydd.

Mae disgwyl i Ogledd Iwerddon a rhannau o’r Alban weld eira – ernes o’r hyn sydd i ddod i weddill gwledydd Prydain.