Gwin coch - ddim yn ddiogel chwaith (AKA CCA2.5)
Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru wedi cefnogi canllaiwau swyddogol newydd sy’n dweud nad oes ddim o’r fath beth â ‘lefel ddiogel’ o yfed alcohol.

Roedd Ruth Hussey yn rhan o’r gweithgor o brif swyddogion meddygol gwledydd Prydain sy’n dweud am y tro cynta’ na ddylai dynion yfed mwy na merched – dim mwy nag 14 uned o alcohol bob wythnos.

Fe ddywedodd fod gwell dealltwriaeth o effaith alcohol ar y peryg o ganser yn golygu bod rhaid newid y cyngor ar yfed sydd heb ei ddiweddaru ers 1995.

Y canllawiau newydd

  • Ddylai dynion ddim yfed mwy na 14 uned o alcohol yr wythnos, i lawr o’r 21 o unedau a oedd yn cael ei argymell yn yr adroddiad blaenorol.
  • Mae nifer yr unedau y dylai merched yfed yn aros yr un peth – sef 14 o unedau’r wythnos.
  • Fe ddylai merched beichiog osgoi alcohol yn gyfan gwbl, yn wahanol i’r cyngor 20 mlynedd yn ôl, lle’r oedd yfed dwy uned yr wythnos yn cael ei weld yn dderbyniol.
  • Fe ddylai pobol gael sawl diwrnod yr wythnos yn gwbl ddi-alcohol, meddai yr arbenigwyr iechyd, a ddylai neb yfed yr 14 o unedau i gyd mewn diwrnod chwaith.
  • A phan fydd pobol yn yfed, fe ddylen nhw wneud hynny’n arafach, ei yfed â bwyd ac yfed digon o ddŵr hefyd.

Y peryg o ganser

Mae’r adroddiad hefyd yn dweud bod y perygl o gael canser drwy yfed alcohol yn “dechrau gydag unrhyw lefel o yfed rheolaidd ac yn codi gyda bod yn feddw”.

Mae hyd yn oed yfed ar lefel isel yn cael ei gysylltu â chanserau fel y wefus, y geg, y llwnc a’r fron.

Wrth yfed ar lefelau uchel, mae perygl uwch o ddatblygu afiechydon fel canser y coluddyn a chanser yr afu.

Gwin coch?

Yn ôl y canllawiau newydd, dyw awgrymiadau fod rhai mathau o alcohol, fel gwin coch, yn dda i’r iechyd ddim yn wir.

Dim ond mewn menywod dros 55 oed y gallai yfed rhywfaint o win coch fod o les i’r galon, meddai’r gwaith ymchwil.