Sioned Hughes, y Prif Weithredwr newydd
Mae Prif Weithredwr newydd yr Urdd wedi cydnabod bod gan y mudiad ieuenctid fwy o waith i’w wneud er i gadw delwedd ‘cŵl’ ymysg plant a phobl ifanc hŷn.

Fe ddywedodd Sioned Hughes wrth Golwg360 fod angen sylw arbennig i’r oedran rhwng 11 ac 16 oed, lle’r oedd peryg i’r mudiad golli tir.

Ond y prif nod oedd adeiladu ar y gwaith oedd eisoes yn cael ei wneud: “Mae’n rhaid i ni fod yn gyfredol i bobl ifanc, mae’n rhaid i ni fod yn eitha’ cŵl!”

Dathlu canmlwyddiant

A hithau gynt yn Gyfarwyddwr Polisi a Materion Allanol gyda Chartrefi Cymunedol Cymru, bydd Sioned Hughes yn dechrau ei swydd newydd fis yma gan olynu Efa Gruffydd Jones.

Dywedodd y pennaeth newydd, sy’n dod o Rhuthun yn wreiddiol, y byddai hefyd yn ceisio ehangu apêl y mudiad i ddysgwyr a rhieni di-Gymraeg.

Ac fe ddywedodd mai’r “sialens fwya’” fydd dechrau paratoi at ddathlu canmlwyddiant y mudiad yn 2022.

‘Cynulleidfaoedd newydd’

“Mae’r Urdd wedi tyfu llawer, felly dw i eisiau sicrhau ein bod ni’n gwella’r ddarpariaeth yr ydan ni’n ei gynnig, gwella’r amrywiaeth, cynyddu nifer ein haelodau, a hefyd siarad gyda chynulleidfaoedd newydd ac ehangu ein gorwelion fwyfwy tuag at ddysgwyr a rhieni di-Gymraeg.

“Y sialens fwya’ fydd y canmlwyddiant ymhen chwe blynedd. Mae sicrhau ein bod ni’n creu dathliadau sydd yn werthfawr ac yn adlewyrchu pwysigrwydd yr Urdd i bawb yn un o’r rhai mwyaf cyffrous.”

Er bod gan yr Urdd bellach dros 55,000 o aelodau, fe gyfaddefodd y prif weithredwr newydd y gallai mwy gael ei wneud i gynnal diddordeb disgyblion ysgol uwchradd, a’r oedran rhwng hynny a 25 oed.

Cŵl a chyfredol

“Dw i eisiau bod yr Urdd ar flaen y gad ac yn apelio at yr ystod oedran cyfan – dw i’n gweld ar hyn o bryd ein bod ni’n colli ychydig bach rhwng 11 ac 16 oed,” meddai Sioned Hughes.

“Mae gwaith arbennig wedi cael ei wneud dros y blynyddoedd diwetha’ yn cynyddu’r gweithgareddau chwaraeon; mae dros 40,000 o blant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn cystadlaethau yn flynyddol.

“Dw i’n meddwl bod yna gyfleoedd mawr i’r Urdd ddarparu cyfleoedd gwaith a phrentisiaeth – mae hynny’n digwydd mewn rhai rhannau o’r Urdd ond ddim ym mhob un.”

Stori: Iolo Cheung