Sian Blake
Mae ditectifs yn chwilio am bartner cyn-actores EastEnders ar ôl i dri chorff gael eu darganfod wrth i’r heddlu chwilio amdani hi a’i dau blentyn.
Cafwyd hyd i’r cyrff yng ngardd cartref Sian Blake, 43, yn Erith yng Nghaint ddydd Mawrth.
Mae’r heddlu’n cynnal ymchwiliad i lofruddiaeth y tri.
Fe ddiflannodd gyda’i meibion Zachary, 8, ac Amon, 4, yn nwyrain Llundain ar 13 Rhagfyr, ac mae Scotland Yard yn wynebu cwestiynau pam ei fod wedi cymryd tair wythnos i anfon ditectifs i’w chartref a darganfod y cyrff.
Mae tîm safonau proffesiynol yr heddlu yn ymchwilio i’r modd y mae’r ymchwiliad wedi cael ei gynnal.
Tridiau ar ôl i Sian Blake a’i meibion ddiflannu, bu’r heddlu’n holi ei phartner a thad y plant Arthur Simpson-Kent, 48, yng nghartref y teulu cyn iddo ef ddiflannu hefyd.
Roedd Sian Blake yn dioddef o glefyd motor niwron ac yn ôl adroddiadau roedd yn edrych yn “fregus iawn” cyn iddi ddiflannu.
Fe fydd archwiliadau post mortem yn cael eu cynnal ddydd Mercher. Nid yw’r cyrff wedi cael eu hadnabod yn swyddogol hyd yn hyn.