Roedd Aelodau Seneddol ar eu traed tan oriau mân y bore ‘ma yn trafod dyfodol ariannu S4C yn Nhŷ’r Cyffredin.

Cafodd y ddadl diwedd dydd ei chynnal am 2yb, gyda’r Aelod Seneddol Ceidwadol dros Orllewin Caerfyrddin a De Penfro, Simon Hart, yn ei harwain.

Yn ôl Guto Bebb, Aelod Seneddol  Aberconwy, a oedd yn siarad ar raglen Y Post Cyntaf y bore ma, bwriad y drafodaeth oedd sicrhau bod Llywodraeth Prydain yn “deall anniddigrwydd” yr aelodau Ceidwadol o Gymru ynglŷn a’r  cyhoeddiad diweddar i gwtogi cyllid S4C ymhellach.

“Roedd yr hyn a gyhoeddwyd (yn Natganiad yr Hydref) yn gwbl groes i’r hyn oedd wedi cael ei ddweud yn ein maniffesto,” meddai.

Yn Natganiad yr Hydref, cyhoeddodd George Osborne y bydd y rhan o gyllideb S4C sy’n dod o’r Adran dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) yn gostwng 26%, o £6.7m i £5m erbyn 2019/20.

Erbyn hyn, mae’r rhan fwyaf o gyllid y sianel genedlaethol yn dod o ffi drwydded y BBC.

Yn ôl Huw Jones, cadeirydd y sianel, ar y Post Cyntaf, roedd y drafodaeth yn “ddigwyddiad pwysig, oedd wedi creu argraff ar y Gweinidog (dros Ddiwylliant) ac yn gaffaeliad i ni mewn trafodaethau yn y dyfodol.”

Galw am adolygiad annibynnol

Yn ystod y ddadl, galwodd nifer o aelodau o Gymru am adolygiad annibynnol ar y ffordd mae S4C yn cael ei hariannu, gan ddweud y gall y mater gael ei anwybyddu o dan Adolygiad Siarter y BBC.

Os bydd adolygiad annibynnol, dywedodd Huw Jones fod hi’n “bwysig” bod yr adolygiad hwnnw yn “gallu dylanwadu” ar y setliad ariannol.

Roedd Ed Vaizey, Gweinidog Llywodraeth Prydain dros Ddiwylliant, Cyfathrebu a Diwydiannau Creadigol wedi dweud y byddai’n ystyried y pwynt o gael adolygiad annibynnol ar y mater.