Fe fydd David Cameron yn caniatáu i’w weinidogion ymgyrchu o blaid neu yn erbyn aros yn yr Undeb Ewropeaidd, mewn ymgais i geisio rheoli’r rhaniadau o fewn y Ceidwadwyr.

Roedd pryder y byddai rhai gweinidogion yn ymddiswyddo petai’r Prif Weinidog yn mynnu bod rhaid i bob aelod o’i Gabinet ymgyrchu o blaid pleidlais ‘Ie’ i aros.

Ond fe fyddan nhw nawr yn cael y rhyddid i ymgyrchu fel y mynnan nhw, cyn belled â bod hynny ddim yn digwydd nes i Cameron orffen ei drafodaethau ag arweinwyr Ewropeaidd eraill ynglŷn â’r UE a rôl Prydain.

Er bod y Prif Weinidog yn awyddus i aros yn yr Undeb Ewropeaidd, ar ôl sicrhau diwygiadau o fewn y corff, mae sawl aelod o feinciau cefn ei blaid yn ogystal â rhai aelodau amlycach eisiau pleidleisio dros adael.

Dywedodd y Democratiaid Rhyddfrydol ei bod hi nawr yn gyfle i glywed ar ba ochr mae Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb yn sefyll.

Mae disgwyl i’r Prif Weinidog amlinellu’r polisi yn Nhy’r Cyffredin prynhawn ma.

Galwad i Crabb

Mewn ymateb fe fynnodd y Democratiaid Rhyddfrydol y dylai Ysgrifennydd Cymru Stephen Crabb ddatgan yn glir ei fod o blaid aros yn yr Undeb Ewropeaidd.

Dyw’r Aelod Seneddol dros Breseli Penfro heb gadarnhau yn bendant eto beth yw ei safbwynt ar y mater, ond yn ddiweddar fe wfftiodd awgrymiadau y byddai miliynau o swyddi dan fygythiad petai Prydain yn gadael.

“Byddai unrhyw un sydd yn ceisio gwneud y gorau dros Gymru yn bendant o blaid ein cadw ni yn yr Undeb Ewropeaidd,” meddai llefarydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ar Ewrop, yr AC Eluned Parrott.

“Mae Cymru yn elwa cymaint o arian Ewropeaidd, ac mae miloedd o swyddi yn dibynnu arno – swyddi fyddai’n diflannu dros nos petawn ni’n cau’r drws.”

Rhybuddion gan ei blaid

Does dim dyddiad wedi cael ei bennu eto ar gyfer cynnal y refferendwm, er ei bod hi’n debygol y bydd hi’n cael ei chynnal cyn diwedd y flwyddyn.

Dros y misoedd diwethaf mae David Cameron wedi bod yn cynnal trafodaethau ag arweinwyr Ewropeaidd er mwyn ceisio cyflwyno diwygiadau fel taliadau lles i fewnfudwyr.

Yn ôl yr AS Steve Baker, sydd yn aelod o grŵp Conservatives For Britain, mae dros hanner ei gyd-wleidyddion yn “ochri tuag at adael” ac fe fyddai rhai gweinidogion yn siŵr o ymddiswyddo petai Cameron yn eu gorfodi i ochri ag e.

Ond mae’r cyn-brif Weinidog Ceidwadol John Major, cyn-arweinydd y blaid Michael Howard a’r cyn-Weinidog Michael Heseltine wedi rhybuddio y byddai caniatáu pleidlais rydd ymysg ei Gabinet yn niweidiol i David Cameron.

‘Dim dadlau’

Mynnodd Maer Llundain Boris Johnson ei fod yn gefnogol o safbwynt David Cameron ar hyn o bryd ond y dylai Prydain “fod yn barod i gerdded i ffwrdd” os nad oedd Ewrop yn rhoi beth roedden nhw wedi’i ofyn amdano.

Ond fe wfftiodd yr awgrym y byddai David Cameron o dan bwysau i ymddiswyddo petai’n colli’r refferendwm a bod Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd.

Mynnodd hefyd nad oedd ei blaid yn rhanedig ar y mater, gan ddweud eu bod i gyd yn gefnogol o’r Prif Weinidog.