Mae cwmni Trenau Arriva Cymru wedi cadarnhau eu bod nhw’n cynnal trafodaethau ar hyn o bryd â chynrychiolwyr yr undebau i geisio dod i gytundeb ynglŷn ag anghydfod am delerau gwaith gyrwyr trên.
Ddydd Llun, fe wnaeth aelodau o undebau Aslef ac RMT gynnal streic am 24 awr oherwydd anghydfod ynglŷn â chyflogau ac amodau gwaith y cwmni.
O ganlyniad, cafodd gwasanaethau trên ar draws Cymru eu canslo ddoe wrth i bobl ddychwelyd i’w gwaith wedi gwyliau’r Nadolig. Ond, gall y cwmni gadarnhau bellach fod eu holl wasanaethau’n rhedeg yn ôl yr arfer.
Er hyn, dylai teithwyr wirio eu hamserlen cyn teithio oherwydd posibiliadau am effeithiau i’r gwasanaeth wedi’r streic, meddai’r cwmni.
Trafodaethau
Fe ddywedodd Eryl Jones, llefarydd ar ran Arriva Cymru, wrth golwg360 y bore yma eu bod nhw’n “gobeithio dod i ryw fath o gytundeb heddiw.”
Esboniodd fod y cwmni wedi trafod â’r undeb ar sawl achlysur yn ystod mis Rhagfyr, a’u bod yn gobeithio “y byddan nhw’n derbyn ein cynnig.”
“Roedd yr undebau yn dweud ddoe eu bod nhw’n barod i siarad ac, ar hyn o bryd, alla’ i ond ddweud ein bod ni’n obeithiol y bydd yna gytundeb.”
Mae’r undebau hefyd wedi cyflwyno gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol ac, yn ôl Eryl Jones, “mae hynny wedi amharu ar rai gwasanaethau’r wythnos diwethaf ac yn parhau i wneud ar hyn o bryd.”
‘Sefyll yn gadarn’
Fe ddywedodd Simon Weller, Trefnydd Cenedlaethol undeb Aslef fod yr aelodau wedi “sefyll yn gadarn” oherwydd “doedd dim un trên o Drenau Arriva Cymru yn rhedeg ddoe.”
Fe ychwanegodd fod y gwaharddiad ar weithio oriau ychwanegol wedi “arddangos y prinder gyrwyr sydd gan Trenau Arriva Cymru fel na allan nhw hyd yn oed gynnal eu gwasanaethau sylfaenol.”
Er hyn, fe ddywedodd Simon Weller eu bod yn barod i drafod â’r cwmni heddiw er mwyn “datrys yr anghydfod dros amodau gwaith.”
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi galw ar y ddwy ochr i geisio dod i gytundeb.