Simon Lewis
Mae babi gafodd ei eni tri mis yn gynnar yn dilyn gwrthdrawiad ar Nos Galan bellach wedi marw, yn ôl Heddlu De Cymru.
Cafodd tad y bachgen, Simon Lewis, ei ladd yn y ddamwain rhwng ei gar Daihatsu Sirion a cherbyd arall ar Ffordd Lamby yng Nghaerdydd nos Iau diwethaf.
Yn dilyn y ddamwain cafodd gwraig Simon Lewis, Amanda, oedd yn feichiog, ei chludo i Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd er mwyn rhoi genedigaeth i’w babi drwy Ceasarean brys.
Ond fe fu farw’r bachgen bach yn yr ysbyty ar yr un diwrnod.
Apêl am wybodaeth
Mae Amanda Lewis bellach wedi gofyn am breifatrwydd wrth i’r teulu ddygymod â cholled Simon Lewis a’r babi bach.
Roedd merch tair oed Simon ac Amanda Lewis, Summer, hefyd yn teithio yn y car pan ddigwyddodd y ddamwain.
Fe ddigwyddodd y gwrthdrawiad am tua 5.30yh nos Iau 31 Rhagfyr, rhyw chwarter milltir oddi wrth gylchfan Rover Way.
Cafodd gyrrwr y cerbyd glas Peugeot 307 arall oedd yn rhan o’r gwrthdrawiad ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru hefyd ble mae’n parhau i gael triniaeth i’w anafiadau.
Mae Heddlu De Cymru wedi apelio am unrhyw dystion i’r digwyddiad neu rywun welodd y Peugeot 307 yn cael ei yrru cyn y ddamwain i gysylltu â nhw ar 101 gan ddefnyddio’r rhif cyfeirnod *480293.