Michael Dugher
Mae arweinydd y Blaid Lafur wedi dechrau ad-drefnu ei gabinet cysgodol gan ddechrau drwy ddiswyddo ei lefarydd diwylliant.

Michael Dugher yw’r cyntaf i adael cabinet yr wrthblaid,  gan gyhoeddi ei ddiswyddiad ar Twitter.

“Newydd gael fy niswyddo gan Jeremy Corbyn. Dymunais flwyddyn newydd dda iddo,” meddai’r AS dros Ddwyrain Barnsley.

Fe wnaeth Michael Dugher bleidleisio o blaid gweithredu’n filwrol yn Syria ym mhleidlais rydd Tŷ’r Cyffredin fis diwethaf.

Roedd hefyd wedi rhybuddio ei arweinydd na fyddai ad-drefnu ei gabinet er mwyn amgylchynu ei hun â chynghreiriaid o asgell chwith Llafur yn gwneud unrhyw ddaioni i’r blaid.

Disgwyl gorffen ail-drefnu heddiw

Mae disgwyl i Jeremy Corbyn orffen ad-drefnu ei gabinet heddiw ar ôl trafodaethau hwyr yn y nos neithiwr gydag aelodau allweddol o’r tîm.

Arweiniodd y trafodaethau at ddyfalu ei fod yn ceisio chwynnu’r rhai sydd â barn wahanol iddo o’r cabinet, fel yr ysgrifennydd tramor cysgodol, Hilary Benn, a bleidleisiodd o blaid cynnal ymosodiadau o’r awyr gan luoedd y DU ar Syria.

Fe wnaeth 11 o aelodau o gabinet yr wrthblaid bleidleisio o blaid yr ymosodiadau ar Syria ar ôl i Jeremy Corbyn gael ei orfodi i ganiatáu pleidlais rydd.

Awgrymodd Michael Dugher ar Twitter ei fod wedi cael ei ddiswyddo am y sylwadau cyhoeddus a wnaeth am y posibilrwydd o “ad-drefnu i ddial” ar y rhai a wrthwynebodd yr arweinydd dros Syria.

“Dywedodd Jeremy nad oedd yn hoffi’r pethau ro’n i wedi bod yn ysgrifennu o blaid cyd-weithwyr da a gwleidyddiaeth newydd,” meddai’r cyn-lefarydd diwylliant yn ei neges Twitter