Y jihadydd yn fideo newydd IS
Mae’r gwasanaethau diogelwch a’r heddlu yn ceisio adnabod y bobl sy’n ymddangos mewn fideo newydd gan y Wladwriaeth Islamaidd (IS) y credir sydd â chysylltiadau a Phrydain.
Mae chwaer Abu Rumaysah, sy’n cael ei amau o ymddangos yn y fideo yn gwisgo mwgwd, wedi dweud nad yw hi’n credu mai ei brawd yw’r milwriaethwr yn y ffilm, ond bod ei lais yn swnio’n debyg.
Dywedodd Konika Dhar o ogledd Llundain y byddai hi’n “ei ladd fy hun” petai hi’n darganfod mai ei brawd oedd yn y fideo, sy’n dangos pump o wystlon yn cael eu llofruddio.
Yn ôl adroddiadau mae bachgen ifanc a oedd wedi ymddangos yn y fideo mewn gwisg filwrol yn fab i Grace “Khadija” Dare o dde-ddwyrain Llundain a oedd wedi teithio i Syria yn 2012. Roedd wedi priodi Abu Bakr oedd yn cael ei amau o fod yn jihadydd. Credir ei fod bellach wedi cael ei ladd.
Nid yw’r gwasanaethau diogelwch wedi cadarnhau enwau’r rhai sydd yn y fideo.
Cafodd Abu Rumaysah ei arestio ym mis Medi 2014 pan oedd yn 31 oed, ynghyd ag wyth dyn arall, fel rhan o ymchwiliad i gefnogaeth honedig i grŵp eithafol al-Muhajiroun, sydd wedi’i wahardd.
Ond fe lwyddodd i ffoi o Brydain gyda’i deulu y diwrnod canlynol ar ôl cael ei ryddhau ar fechnïaeth, gan deithio i Baris ac yna Syria, yn ôl pob tebyg.
Dywedodd Konika Dhar nad yw wedi bod mewn cysylltiad â’i brawd ers mwy na blwyddyn.
Mae David Cameron wedi dweud bod y fideo yn “bropaganda llwyr” gan grŵp sy’n “colli tiriogaeth.”