Mae dyn 47 oed mewn cyflwr difrifol yn Ysbyty Athrofaol Caerdydd wedi gwrthdrawiad difrifol ar yr A470 yn Rhondda Cynon Taf.
Digwyddodd y gwrthdrawiad am tua 6:35yh nos Lun ar yr A470 tua’r Gogledd yn agos i Abercynon ac mae Heddlu De Cymru yn apelio am dystion. Roedd y dyn yn gyrru Ford Fiesta lliw arian.
Mae’r heddlu yn gofyn i unrhyw un a welodd y gwrthdrawiad neu a oedd yn teithio ar hyd y ffordd ar yr un adeg, i gysylltu â nhw ar 101 neu drwy Taclo’r Taclau yn anhysbys ar 0800 555 111 gan ddyfynnu 1600004176.