Llifogydd yn Nhalybont Llun: Y Cynghorydd Dafydd Meurig
Wrth ymweld â rhai o’r ardaloedd a effeithiwyd gan y llifogydd diweddar yng ngogledd Cymru heddiw, mae’r Prif Weinidog wedi cyhoeddi y bydd £2.3 miliwn yn cael ei wario ar gynlluniau amddiffyn ledled Cymru.

Fe esboniodd Carwyn Jones fod y £2.3 miliwn hwn wedi dod o gyllideb ganlyniadol Llywodraeth y DU, a’i fod yn swm ychwanegol at y £1 miliwn a neilltuwyd yr wythnos ddiwethaf at waith trwsio a chynnal brys yn yr awdurdodau lleol.

“Mae’r effeithiau rydym wedi’u gweld dros gyfnod y gwyliau yn dangos mor bwysig yw hi inni ddal ati i ddiogelu cymunedau ymhob ardal yng Nghymru rhag y llifogydd a ddaw yn sgil tywydd mawr,” meddai.

‘Pobl yn gandryll’

Daw ymweliad Carwyn Jones a phentrefi Pontnewydd a Thalybont heddiw yn dilyn beirniadaeth ar ôl iddo fethu a chwrdd â’r trigolion yn ystod ei ymweliad wythnos ddiwethaf.

Fe ddywedodd yr AC dros Arfon, Alun Ffred Jones, wrth golwg360 fod “pobol yn gandryll fod Carwyn Jones wedi dod mor agos at gyrion y pentref i dynnu’i lun ar y bont, ac wedyn mynd adre.”

Er hyn, fe ychwanegodd yr hoffai weld Llywodraeth Cymru “yn gweithredu ar frys” y cynlluniau atal llifogydd.

‘Gweld y dinistr’

Dywedodd cynghorydd Gwynedd, Dafydd Meurig, wrth golwg360 ei fod yn edrych ymlaen at glywed “sut y bydd Llywodraeth Cymru yn blaenoriaethu’r arian yma.”

Fe ddywedodd y bydd yn parhau i bwyso ar Lywodraeth Cymru i ariannu’r cynllun gwerth £1.5 miliwn sydd wedi’i gynllunio i amddiffyn rhag llifogydd yn ardal Talybont, ger Bangor. Cafodd yr ardal ei heffeithio’n ddifrifol yn y llifogydd dros gyfnod y Nadolig gan arwain at gau’r A55.

“Da ni isio iddo fo weld y dinistr mae llifogydd wedi’i achosi i bobol Talybont,” ychwanegodd Dafydd Meurig.

Esboniodd fod 16 o dai ac un capel wedi mynd o dan ddŵr yn ddiweddar, ac mai dyma’r eildro mewn tair blynedd i’r pentref ddioddef llifogydd difrifol, er bod cynllun mewn lle ers mwy na blwyddyn.

“Da ni’n pwyso arno fo [Prif Weinidog] i ryddhau’r arian sydd ei angen i gynllun atal llifogydd sydd eisoes wedi’i baratoi.”

Fe esboniodd fod y llifogydd yn ganlyniad i ddatblygiad yr A55, ac y byddai’r cynllun arfaethedig yn dargyfeirio’r dŵr i afon Ogwen cyn cyrraedd y briffordd.

‘Buddsoddi’

Fe ychwanegodd y Prif Weinidog mewn datganiad: “Mae’n bwysig cofio ein bod, ers 2011, wedi ymrwymo bron £300m, sy’n cynnwys arian o Ewrop, i reoli peryglon llifogydd a chaiff £150m ychwanegol ei fuddsoddi i reoli peryglon i’r arfordir o 2018.”