Ysbyty Treforys, Abertawe
Mae Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn galw ar bobl i beidio â defnyddio’u hadrannau brys oni bai bod argyfwng.
Maen nhw’n rhybuddio bod eu hadrannau brys o dan bwysau mawr, gydag adran frys Ysbyty Treforys yn Abertawe wedi gweld 25% o gynnydd yn y galw dros y Nadolig a’r flwyddyn newydd o gymharu â’r arfer.
Mewn datganiad, mae’r Bwrdd yn rhybuddio fod y cynnydd hwn, ynghyd â phrinder staff mewn rhai adrannau, yn achosi oedi.
O ganlyniad, mae’n bosib y bydd cleifion sy’n ymweld ag unedau brys Ysbyty Treforys, Abertawe ac Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn profi oedi hir wrth i’r staff ganolbwyntio ar gleifion sy’n ddifrifol wael yn gyntaf.
‘Meddygon teulu gyntaf’
Mae’r Bwrdd felly yn galw ar bobl i droi at eu meddygon teulu yn gyntaf, os nad oes ganddyn nhw salwch neu anaf difrifol.
Maen nhw hefyd yn cynghori pobl i ddefnyddio’r uned mân anafiadau yn Ysbyty Singleton ac Ysbyty Castell-nedd Port Talbot os oes angen.
Fe ddywedon nhw eu bod yn gweithio’n galed gyda thimoedd clinigol, cydweithwyr yn yr awdurdodau lleol, teuluoedd a gofalwyr i sicrhau y gall cleifion fynd adref mor fuan â phosibl.
Ond, “gall cleifion sydd ddim mewn argyfwng helpu drwy osgoi’r adrannau brys i ryddhau mwy o staff i ddelio â chleifion sy’n ddifrifol wael.”