Jeremy Corbyn
Mae ’na ddyfalu bod arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yn bwriadu ad-drefnu ei gabinet wrth iddo gwrdd ag uwch-swyddogion yn San Steffan.
Mae disgwyl i Jeremy Corbyn gynnal trafodaethau “cychwynnol” gyda rhai aelodau o’i gabinet cysgodol cyn gwneud penderfyniad cyn cyfarfod amser cinio ddydd Mawrth.
Yn ôl adroddiadau mae swydd Hilary Benn fel llefarydd tramor y blaid dan fygythiad ar ôl iddo annerch Tŷ’r Cyffredin yn cefnogi ymosodiadau awyr gan y DU ar safleoedd IS yn Syria.
Ac mae’n debyg bod Maria Eagle wedi cythruddo rhai aelodau o’i phlaid ar ôl datgan ei chefnogaeth i adnewyddu Trident.
Mae cyn-faer Llundain Ken Livingstone wedi gwadu bod ’na densiynau o fewn y blaid ond dywedodd efallai byddai’n beth da i Jeremy Corbyn petai Hilary Benn yn cael ei symud i swydd arall lle’r oedd yn cytuno gydag arweinydd y blaid.
Mae Jeremy Corbyn wedi gwrthod gwneud sylw ynglŷn â’r honiadau am ad-drefnu cabinet yr wrthblaid.