Connor Williams, 17, chwith, a Conor Tiley, 18, o Aberbargod
Mae’r ddau a gafodd eu lladd mewn gwrthdrawiad yn Hengoed ger y Coed-duon, Caerffili neithiwr wedi’u henwi’n lleol.

Bu farw Connor Williams, 17 oed, a Conor Tiley, 18 oed, yn y fan a’r lle. Cafodd yr heddlu eu galw i’r safle ar yr A469 yn Nhir-y-Berth ychydig cyn 7.30yh nos Sul, Ionawr 3.

Roedd y ddau yn dod o ardal Aberbargod, ac yn ddisgyblion yn Ysgol Gyfun Cwm Rhymni lle mae eu prifathro, Owain ap Dafydd, wedi talu teyrnged iddyn nhw.

Yn teithio gyda nhw roedd bachgen arall 18 oed, sydd wedi’i enwi’n lleol fel Cameron Nicholas. Fe gafodd ei gludo i Ysbyty Athrofaol Cymru, Caerdydd gydag anafiadau difrifol.

Roedd y tri yn teithio mewn car Ford Fiesta porffor pan fu mewn gwrthdrawiad â char Vauxhall Astra lliw arian.

Cafodd y ddynes oedd yn gyrru’r Vauxhall Astra ei chludo i Ysbyty’r Tywysog Siarl cyn ei rhyddhau’n ddiweddarach.

‘Poblogaidd a hoffus’

Mae Pennaeth Ysgol Gyfun Cwm Rhymni, Owain ap Dafydd, yn cofio amdanyn nhw fel “disgyblion poblogaidd, hoffus a hynaws” yn ei deyrnged.

Soniodd fod Connor Williams wedi cwblhau ei astudiaethau yn yr ysgol y llynedd ac “fe’i cofir gan bawb fel bachgen llawen, a chanddo synnwyr digrifwch iach ac un a oedd yn ffrind da iawn i lawer.”

Roedd Conor Tiley ar ei flwyddyn olaf ac yn bwriadu astudio busnes yn y brifysgol.

“Roedd eisoes wedi mentro i fyd busnes drwy weithio fel DJ lleol ac roedd wrth ei fodd ym myd cerddoriaeth,” meddai’r Pennaeth.

“Collir y ddau yn arw gan gymuned yr ysgol a’r gymuned ehangach. Danfonwn ein cydymdeimlad dwysaf i’r ddau deulu ar adeg mor eithriadol o anodd a phoenus.”

Fe gadarnhaodd fod y bachgen arall 18 oed, Cameron Nicholas, yn derbyn triniaeth yn yr ysbyty ar hyn o bryd.

“Mae ein meddyliau hefyd gydag ef a’i deulu.”

‘Goleuo ystafell’

Mewn teyrnged iddo dywedodd teulu Conor Tiley ei fod yn fab cariadus i Sean a Helen a brawd i Sophie.

“Roedd pawb oedd yn ei adnabod yn ei garu, roedd wastad yn llawn hwyl mewn digwyddiadau teuluol a phartïon ac fe fyddai ei wen fawr yn goleuo unrhyw ystafell.

“Fe fydd colled fawr ar ei ôl ond ni fydd yn cael ei anghofio, a bydd yn ein calonnau a’n atgofion.

“Cariad mawr Mam, Dad a Sophie.”

Dywedodd teulu Connor Williams, a oedd hefyd yn cael ei adnabod fel “Eggy”, mai un o’r “pethau gorau yn y byd oedd pob eiliad y cawsom ein bendithio o fod gyda’n mab. Ef oedd ein hanadl, ein hapusrwydd, ein bywyd.”

 

Mae Heddlu Gwent yn apelio ar unrhyw un sydd â gwybodaeth i gysylltu â’r heddlu ar 101.