Dr Nasik Al-Mufti, perchennog cartref gofal Pontcanna House, Caerdydd, Llun: Cyngor Caerdydd
Mae gofalwraig wedi cael dros £50,000 o iawndal ar ôl cwympo i lawr siafft lifft mewn cartref gofal yng Nghaerdydd.

Bu farw un o’r preswylwyr 96 oed yn y ddamwain hefyd.

Roedd Carol Conway, 52 oed wedi cwympo 20 o droedfeddi i lawr siafft lifft yng Nghartref Gofal Pontcanna House yng Nghaerdydd yn 2012 wrth iddi dynnu May Lewis, 96 oed, yn ei chadair olwyn.

Roedd May Lewis, a oedd wedi bod yn y cartref am bum diwrnod yn unig, wedi torri 52 o esgyrn a bu farw yn y ddamwain.

Roedd Carol Conway wedi torri ei chefn, ei hasennau, ei throed chwith a thyllu ei hysgyfaint yn y ddamwain.

Perchennog y cartref wedi ‘camymddwyn yn broffesiynol’

Mae Cyngor Gofal Cymru bellach wedi canfod perchennog y cartref Dr Nasik Al-Mufti yn euog o gamymddwyn proffesiynol, a hynny ar ôl iddi eisoes gael dirwy o £100,000 am dorri rheolau iechyd a diogelwch.

Er hyn, dywedodd y Cyngor Gofal nad oedd ei gweithredoedd wedi bod yn fwriadol nac yn fyrbwyll.

Problemau â’r lifft ers sbel

Fe glywodd gwrandawiad fis diwethaf bod problemau wedi bod â’r lifft yn yr adeilad ers sbel, a bod peiriannydd wedi rhybuddio nad oedd y drysau ar yr ail lawr yn ddiogel  i’w defnyddio.

Ond roedd staff yn aml yn defnyddio allwedd argyfwng i agor y drws a’i defnyddio, a hynny’n wybodus i berchennog y cartref.

Disgynnodd Carol Conway a May Lewis i lawr siafft y lifft ar ôl cerdded drwy’r drysau agored, ond nid oedd y lifft yno.

Dywedodd Cyngor Gofal Cymru nad oedd Dr Nasik Al-Mufti wedi ymddwyn mewn ffordd fyrbwyll a bwriadol, ond bod y ddamwain yn un oedd yn “aros i ddigwydd”.