Violet Skies
Mae’r cynllun sy’n hybu cerddoriaeth newydd o Gymru, Gorwelion, yn edrych am artistiaid newydd i ymuno â nhw eleni.
Dyma’r drydedd flwyddyn i’r cynllun gael ei gynnal, ac mae’n gydweithrediad rhwng BBC Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru.
Mae’r cynllun yn chwilio am 12 o fandiau neu gantorion unigol i ymuno â nhw. Bydd yr artistiaid yn manteisio ar gefnogaeth arbenigol ac yn cael cyfle i berfformio mewn digwyddiadau ledled Cymru ac ar wasanaethau radio BBC Radio Cymru a BBC Radio Wales.
Mae artistiaid hefyd wedi manteisio ar gyfleoedd i berfformio mewn gwyliau fel T in the Park a Glastonbury yn y gorffennol.
Violet Skies
Fe wnaeth 12 o artistiaid o Gymru elwa o’r cynllun y llynedd, gan gynnwys Violet Skies, sy’n gantores a chyfansoddwraig o dde Cymru.
Fe esboniodd fod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn “wallgof,” a hithau wedi perfformio yng Ngŵyl Rhif 6, Sŵn, The Great Escape a Maida Vale.
“Mae’n braf mynd i wyliau neu sioe yn gwybod fod yna bobol yna i’ch helpu chi. Mae ysgrifennu a chydweithio ag artistiaid eraill wedi bod yn uchafbwynt hefyd,” meddai.
Dylai ymgeiswyr sydd am fod yn rhan o’r cynllun anfon recordiad o’u gwaith gwreiddiol a llenwi ffurflen ar-lein. Y dyddiad cau yw Chwefror 1, a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu cyhoeddi ar Chwefror 22, yn dilyn penderfyniad gan banel o arbenigwyr.
“Mae ’na gyfleoedd anhygoel wedi’u creu hyd yma, ac rydym yn edrych ymlaen gyda chyffro am fwy o brofiadau cerddorol anhygoel,” meddai Lisa Matthews, Rheolwr Portffolio, Cyngor Celfyddydau Cymru.
Mae cyfle hefyd i wylio sesiynau’r artistiaid y llynedd ar S4C ar Ionawr 8, sef Gorwelion: Sesiynau Maida Vale.