Yws Gwynedd
Gyda blwyddyn arall bron a dod i ben, mae Golwg360 wedi bod yn cael cip nôl ar beth oedd y straeon celfyddydau mwyaf poblogaidd eleni ymysg ein darllenwyr.

Mae hi wedi bod yn flwyddyn brysur arall i’r actorion a’r cerddorion, beirdd a llenorion, ac ambell wyneb newydd yn ogystal â’r cyfarwydd yn gwneud eu marc.

Heb oedi ymhellach, dyma’r Deg Uchaf –fe fyddwn ni hefyd yn datgelu’r blogiau, straeon rhyngwladol, a straeon cyffredinol mwyaf poblogaidd y flwyddyn dros y dyddiau nesaf.

1.Dathlu bywyd llenor a chyn gomisiynydd S4C

Y stori fwyaf poblogaidd eleni oedd sgwrs golwg360 â Sara Maredudd am ddathliad bywyd ei mam, Angharad Jones, yn y Babell Lên yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Meifod.

Roedd hi’n 20 mlynedd ers iddi ennill y Fedal Ryddiaith gyda’i nofel, Y Dylluan Wen, yn Eisteddfod Genedlaethol Abergele yn 1995.

2.‘Angen i bobl hoyw fod yn fwy gweledol’

Cafodd y Mardi Gras hoyw ei chynnal yng Nghaerdydd ar 1 Medi, a dyma ysgogodd farn Richard Newton fod angen i bobl hoyw fod yn fwy gweledol o fewn cymdeithas i hybu dealltwriaeth eraill o’u cymuned.

3.‘Cadair Meifod i Hywel Griffiths’

Mae cyffro dydd Gwener yr Eisteddfod Genedlaethol yn debyg i gyffro diwrnod Nadolig i rai, gyda’r sïon wrth i bobl geisio dyfalu pwy fydd yn sefyll ar ei draed, neu ei thraed, yn y pafiliwn pinc.

Darlithydd Daearyddiaeth yn Aberystwyth oedd y dirgelwch eleni, sef Hywel Griffiths o Langynog, a lwyddodd i wefreiddio’r beirniaid gyda’i awdl “Gwe”.

4.Prif ganlyniadau Eisteddfod Ryng-golegol 2015

Mae hi’n ffrae fawr flynyddol ymysg myfyrwyr pa brifysgol yw’r gorau, ac yn amlwg fe wnaeth canlyniadau eu Heisteddfod nhw ennyn sylw’r cyhoedd yn ogystal.

Prifysgol Aberystwyth ddaeth yn fuddugol eleni ar dir cartref, gan gipio’r tlws oddi ar yr enillwyr blaenorol, Prifysgol Bangor.

5.Pum peth i weld yr wythnos hon

Gall mis Ionawr fod yn fis diflas tu hwnt, felly dim syndod fod yr erthygl hon wedi plesio’r darllenwyr yr adeg honno, gan gynnig syniadau am weithgareddau i’w gwneud i’w diddanu.

Rhwng orielau, gig a darlith, roeddech yn siŵr o dorri ar y diflastod a chael eich trochi mewn diwylliant.

6.Sioe glybiau Bara Caws: tocynnau’n mynd fel slecs

Nid oes rhaid i Gwmni Theatr Bara Caws weithio’n rhy galed i werthu eu tocynnau gan eu bod fwy neu lai yn gwerthu ar eu pen eu hunain bob tro, gan gynnwys eu sioe ddiweddaraf, No we.

Mae’n siŵr fod pob perfformiad wedi bod yn llawn chwerthin, pob cornel o’r clwb yn llawn a phob casgen gwrw yn wag erbyn diwedd y noson.

7.Cyhoeddi enillwyr Gwobrau’r Selar

I fyd cerddoriaeth y tro hwn, gyda channoedd wedi heidio i Aberystwyth i ddathlu holl dalentau cerddorol y flwyddyn a gwobrwyo’r goreuon.

Yws Gwynedd, Candelas a Sŵnami oedd y prif enillwyr, a’r canlyniadau oll yn nwylo’r cyhoedd fu’n pleidleisio am eu ffefrynnau wythnosau ynghynt.

8.Apêl: Telynau i’r Wladfa

Mae’r Wladfa wedi bod yn y newyddion yn rheolaidd eleni oherwydd dathlu 150 mlwyddiant ers y glaniad cyntaf, ond yng nghanol hynny mae llawer yn parhau i weithio er mwyn cadw’r traddodiad Cymreig yno.

Dyna oedd bwriad yr apêl hon, sef anfon dwy delyn draw i ben arall y byd i atgyfnerthu’r traddodiad cerddorol cryf yno.

9.Fidio Yws yn croesi 25K

Dim ond cwta ddwy flynedd yw hi ers i brif-leisydd Frizbee ailymddangos yn y sin gerddoriaeth Gymraeg, ond mae ei lwyddiant yn aruthrol yn barod.

Mae ei boblogrwydd yn amlwg ymysg gwrandawyr sydd yn canu pob gair gydag o, ac mae’n braf gweld hynny’n cael ei adlewyrchu yn y ffigyrau moel hefyd gyda dros 25,000 o bobl wedi gwylio fideo o’i gân ‘Sebona Fi’ ar YouTube.

Yn yr erthygl hon roedd Owain Schiavone’n pwysleisio cymaint yw pwysigrwydd hyrwyddo cerddoriaeth cymaint â phosib, gan ei fod yn amlwg wedi gweithio i Yws Gwynedd.

10.Cowell yn canmol Côr Glanaethwy

Er iddo fod yn stereoteip braidd fod y Cymry’n medru canu, mae’n dda o beth fod Côr Glanaethwy o ardal Bangor wedi medru profi hynny’n wir ar lwyfan Britain’s Got Talent; ein bod yn medru canu, ac yn dda.

Mae’n siŵr fod y profiad wedi bod yn un anhygoel i bob aelod o’r côr, y 162 ohonynt – ac fe gawson nhw bron cymaint o sylw ar y cyfryngau cymdeithasol ac un o uchafbwyntiau cerddorol eraill y flwyddyn, Rodney ‘Talu Bils’ …