Ogwyn Davies Llun: S4C
Bu farw’r arlunydd Ogwyn Davies yn 90 oed.
Un o’i weithiau mwyaf adnabyddus oedd Soar y Mynydd, sy’n dangos capel yng Ngheredigion lle’r oedd yn byw, gyda geiriau emynau yn y cefndir.
Cafodd ei eni yn 1925 yn Nhrebannws, Cwm Tawe gan astudio celf yn Ysgol Gelf Abertawe cyn dysgu’r pwnc yn Ysgol Uwchradd Tregaron, Ceredigion.
Cafodd ei ysbrydoli gan dirlun Cymru a’i hadeiladau.
Dywedodd ei deulu ei fod wedi marw ar 26 Rhagfyr.
Mae’n gadael ei wraig, Beryl, a dau o blant, Huw a Nia.
Roedd yn dad i’r actores Nia Caron, sy’n chwarae rhan Anita Pierce yn Pobol y Cwm.
Dywedodd yr arlunydd Cymreig Wynne Melville Jones wrth y Post Prynhawn bod Ogwyn Davies yn “artist arbennig” a’r “pwysicaf o’r genhedlaeth yna o artistiaid” ond nad oedd wedi cael y sylw dyladwy yn ystod ei fywyd.