Lora Lewis
Lora Lewis sydd yn cymryd cipolwg ar bennod olaf y ddrama – RHYBUDD: Mae’r adolygiad yn cynnwys manylion am ddigwyddiadau’r bennod
Wrth i gyffro’r Nadolig ddirwyn i ben a ninnau oll wedi gorlenwi ein boliau, does dim ond un peth ar ôl i’w wneud ar nos Sul gwlyb – gwylio pennod olaf 35 Diwrnod.
Dw i’n siŵr y gallwn ni gyd gytuno mai llwyddiant ysgubol y bu’r gyfres eleni. Wedi wyth pennod anhygoel yn dilyn hanes unigolion y swyddfa yswiriant a phob un ohonynt â phroblemau mawr yn eu bywydau, cawsom weld diwedd Simon a darganfod pwy ai luchiodd dros ochr yr adeilad. Alun.
Dark horse. Mae’n rhaid ei fod o wir eisiau cael y fflat ‘na efo Katie. A diolch byth fod ei dad o’n gyfreithiwr.
Y rhwyd yn cau
O’r diwedd, mae cyfrinachau pob un o’r cymeriadau yn cael eu datgelu ac mae’n amlwg nad oes neb ond Ruth yn ddieuog gyda’u dwylo yn lân yn y swyddfa hon.
Gydag awydd pechadurus Martin yn drech nag ymdrechion Simon i guddio ei gamau, dechreuodd y rhwyd gau amdano.
Cafodd Leslie ei thynnu i mewn i gylch dieflig Martin a’i pherswadio i wneud yr alwad i’r swyddfa yn nodi’r cyhuddiadau yn erbyn Simon.
Yn bersonol, dw i ddim yn gweld yr hyn a wnaeth Simon, sef newid cyfeiriad ar y polisi yswiriant, cynddrwg â chwarae cogydd efo corff Reg. Ac ar ben hynny, ei osod yn y bin ym mwyty Danny.
Mae cyfrinachau a thwyll Claire yn cael eu datgelu ac mae hynny yn profi’n ormod i Ruth, wrth iddi dynnu ei modrwy dyweddïo.
Dechrau’r diwedd
Ai Claire a Tim achosodd yr holl helynt felly? Llosgi’r warws oedd dechrau’r diwedd.
Dw i’n siŵr y byddai Jeff wedi maddau i’w wraig yn y pen draw am ei haffêr â Simon, ac os na fyddai Martin wedi lladd Jeff, ni fyddai Simon wedi gadael Leslie.
Dw i methu deall sut na sylwodd unrhyw un mai Martin oedd y drwg yn y swyddfa.
Ai dyna’r diwedd?
Er cymaint ro’n i wedi edrych ymlaen at y bennod olaf, ‘dw i ddim yn teimlo fy mod wedi cael fy modloni.
Doedd pennod neithiwr rhywsut ddim yn teimlo fel y finale roeddwn i wedi aros amdano. Mae gen i gymaint o gwestiynau sydd dal heb eu hateb.
Pam nad oes neb yn gwybod am farwolaeth Reg? Ydy Chris yn cael ei ryddhau o’r carchar? Be’ ddigwyddodd i Hazel ar ddiwedd y bennod? Oedd, roedd hi’n bennod dda iawn, ond doeddwn i’m yn teimlo fy mod i’n gwylio’r awr olaf.
Ydw i’n siomedig? Na, nid siomedig, dim ond mod i wedi disgwyl mymryn mwy o densiwn a chyffro.
Ro’n i hefyd yn gobeithio mai un o’r merched a daflodd Simon dros yr ochr… Katie neu Fran ella. Ond na, Alun â’i obsesiwn a laddodd Simon. Dw i methu peidio amau fod Martin yn rhan o’r cynllwyn.
Cyfres arall
Diolch byth, mae cyfres arall o 35 Diwrnod ar y gweill. Braf iawn oedd clywed hynny, gan ei bod hi’n ddrama sy’n denu llawer iawn o wylwyr, rhai yn Gymry ac eraill sy’n llwyr ddibynnol ar yr is-deitlau. Dw i’n edrych ymlaen yn barod.