Joshua Caley (Llun: Heddlu Ynys Manaw)
Mae pryder y gallai fod dyn yn ei arddegau wedi marw ar ôl cwympo i mewn i harbwr yn dilyn dathliadau’r Flwyddyn Newydd.

Mae lluniau teledu cylch cyfyng yn dangos Joshua Caley, 19, yn disgyn i’r môr yn Ramsey, Ynys Manaw, yn ôl heddlu.

Fe fu mwy na 40 o bobol allan yn chwilio am Joshua ddoe, wedi i’w rieni riportio na ddychwelodd adref ar ddiwedd noson allan.

Mae llefarydd ar ran Heddlu Ynys Manaw heddiw wedi cadarnhau eu bod nhw’n credu fod Joshua Caley wedi syrthio i’r môr.

“Yn amlwg,” meddai, “ni lwyddodd i ddod allan o’r môr i ddiogelwch, ac mae’r chwilio yn parhau.”