Mae pedwar o bobol wedi’u harestio a’u rhyddhau ar fechniaeth, yn dilyn tân mewn ysgol gynradd yng Nghwmbrân ddoe.

Fe gynheuodd y fflamau yn uned feithrin a dosbarth derbyn Ysgol Coed Efa yn ystod oriau mân Dydd Calan.

Fe gymrodd hi ddeg o griwiau achub i ddod a’r fflamau dan reolaeth, ac fe fuon nhw wrthi am oriau’n ceisio eu diffodd yn llwyr.

Meddai Heddlu Gwent mewn datganiad: “Rydyn ni’n dilyn sawl trywydd wrth geisio ymchwilio’r digwyddiad, ac rydyn ni’n apelio ar i unrhyw dystion ddod i gysylltiad.”