Mae Tim Achub Mynydd Llanberis yn rhybuddio cerddwyr i fod yn ofalus ac yn gall os ydyn nhw’n mentro allan i’r mynyddoedd y penwythnos hwn.

Fe ddaw’r alwad wedi i’r tim gael ei alw allan i achub dau gerddwr a aeth yn sownd ar y Grib Goch ddydd Calan, a thrydydd a gwympodd fwy na 150 o droedfeddi ar lethrau’r Wyddfa.

Fe gafodd y tri cherddwr eu cludo’n ddiogel yn y gwynt a’r glaw i ganolfan y Tim yn Nant Peris. Yn lwcus iawn, chafodd yr un o’r tri eu hanafu, ond roedden nhw’n diodde’ o sgil effeithiau’r oerni.