Llifogydd yn Tadcaster yng ngogledd Swydd Efrog
Mae cannoedd o bobl wedi gorfod gadael eu cartrefi a miloedd heb gyflenwad trydan ar ôl i Storm Frank achosi rhagor o ddifrod dros nos.
Yr Alban a gogledd Lloegr gafodd eu heffeithio waethaf gan y gwyntoedd cryfion a’r glaw trwm nos Fercher gyda phobl yn Croston, yn Swydd Gaerhirfryn yn cael eu hannog i adael eu cartrefi ar unwaith.
Arweinydd y Blaid Lafur Jeremy Corbyn yw’r diweddaraf i feirniadu Asiantaeth yr Amgylchedd am y ffordd mae wedi delio gyda’r argyfwng, cyn iddo ymweld â Chaerefrog heddiw.
Dywedodd ei fod yn bwriadu holi swyddogion ynglŷn â pham nad ydyn nhw wedi defnyddio pympiau newydd yn y gogledd “a allai fod wedi helpu’n sylweddol i leddfu effeithiau’r llifogydd.”
Daw ei ymweliad dridiau ar ôl i’r Prif Weinidog David Cameron ymweld â Chaerefrog ac amddiffyn yr arian sy’n cael ei wario ar amddiffynfeydd llifogydd.
Fe fu cadeirydd Asiantaeth yr Amgylchedd Syr Philip Dilley yn ymweld â phobl sydd wedi’u heffeithio gan y llifogydd yng Nghaerefrog ddoe, ar ôl iddo ddychwelyd o’i wyliau yn Barbados dros y Nadolig. Mae wedi cael ei feirniadu am amseru’r gwyliau yn ystod rhai o’r stormydd gwaethaf ers degawdau.
Yn yr Alban bu’n rhaid i 12 o bobl, gan gynnwys dau blentyn, gael eu hachub o fws aeth yn sownd mewn dŵr yn Dailly, De Swydd Ayr.
Cafodd trigolion pentref Ballater yn Swydd Aberdeen eu symud o’r cartrefi gan fod tua 200 o dai heb gyflenwad trydan dros nos.